Cyfieithu iSupport for Young People

Cynlluniwyd y fersiwn wreiddiol o iSupport, a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, ar gyfer oedolion sy'n gofalu, nid pobl iau. Mae llawer o bobl ifanc yn rhannu’r cyfrifoldeb am ofalu am aelod o’r teulu sy’n byw gyda dementia. Mae angen i'r bobl ifanc hyn gael eu hysbysu'n llawn am ddementia a'u cefnogi yn eu rôl. Mae'r addasiad hwn o iSupport wedi'i greu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth chwe pherson ifanc rhwng 11 ac 17 oed sydd â phrofiad uniongyrchol o helpu i ofalu am berson â dementia.

Rydym wedi cydweithio ag ymchwilwyr ym Mrasil,Sbaen a'r Eidal, sydd wedi cyfieithu iSupport for Young People i Brasil-Portiwgaleg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Mae iSupport for Young People yn cynnwys pum pwnc:


  1. Cyflwyniad i ddementia
  2. Bod yn ofalwr
  3. Gofalu amdanaf
  4. Darparu gofal bob dydd
  5. Delio â newidiadau ymddygiad

Gallwch ddewis gweithio trwy'r pynciau a'r cynnwys yn eu tro neu ddewis y pynciau sydd fwyaf perthnasol a defnyddiol i chi.